Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Unigolyn
1. Egwyddorion cyffredinol y Bil
1.1 A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?
Yn rhannol
1.2 Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)
Rwy'n gefnogol i mwyafrif egwyddorion y BIl ond mae'n fater o bryder difrifol darganfod bod Saesneg wedi cynnwys ar y rhestr o elfennau mandadol o'r Cwricwlwm. Mae perygl i’r Bil danseilio’r Gymraeg ac addysg drochi sef y dull mwyaf llwyddiannus o sicrhau rhuglder yn y Gymraeg.
Nodir yn y Bil bod y Saesneg a’r Gymraeg yn fandadol o fewn y Cwricwlwm ond bod hawl gan gyrff llywodraethu ysgolion i optio allan o addysgu Saesneg i blant hyd at 7 oed. Golyga hyn bod addysgu Saesneg hyd at 7 oed yn norm ac addysg drochi yn y Gymraeg yn eithriad a bydd angen i bob ysgol sydd yn dymuno sefydlu cyfundrefn addysg drochi fynd trwy broses o eithio / optio allan o addysgu Saesneg i blant hyd at 7 oed.
Yn ôl y Bil, mae datgymhwyso’r Saesneg yn ‘amodol ar benderfyniad penaethiaid a chyrff llywodraethu. Byddai’n berffaith bosib, felly, i ysgolion unigol dynnu’n groes i bolisi awdurdod lleol o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant dan 7 oed. Byddai hefyd yn bosib i bennaeth / corff llywodraethu newydd, heb yr un weledigaeth am ddwyieithrwydd, troi’r cloc yn ôl gan newid polisi’r ysgol o ran addysg drochi a mynd yn broes i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, cynlluniau sydd yn rhan o ddarpariaeth statudol y Llywodraeth i hybu addysg Gymraeg. Oni ddylai'r Bil adlewyrchu dyheadau Llywodraeth Cymru am y Gymraeg 2050 gan gynnig fframwaith cadarn i ehangu, hwyluso a hybu addysg drochi yn y Gymraeg?
1.3 A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Ydw, er mwyn sicrhau gwireddu gofynion y Cwricwlwm newydd a chynnig fframwaith clir.
2. Gweithredu’r Bil
2.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
2.2 A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
3. Canlyniadau anfwriadol
3.1 A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
Effaith cynnwys Saesneg ar y rhestr o feysydd mandadol fydd tanseilio nod y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cofier nad trin y ddwy iaith yr un fath yw hanfod cydraddoldeb, a bod y Llywodraeth ei hun yn cydnabod mai hyrwyddo’r Gymraeg yn rhagweithiol yw’r ateb os ydym am obeithio rhoi cyfle teg i bob disgybl ddod yn rhugl ddwyieithog.
Er gwaethaf blynyddoedd o lwyddiant mewn Addysg Gymraeg, mae Bil y Cwricwlwm, os caiff ei basio heb welliannau perthnasol, yn mynd i droi’r cloc yn ôl at gyfnod pan oedd rhaid brwydro’n barhaus i weld cynnydd Addysg Gymraeg a chynnydd mewn dwyieithrwydd.
Mae angen ystyried sut i wella geiriad y Bil er mwyn osgoi'r problemau amlwg all godi os bydd y Saesneg yn parhau ar y rhestr o bynciau mandadol.
4. Goblygiadau ariannol
4.1 A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)
-
5. Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth
5.1 A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)
-
6. Ystyriaethau eraill
6.1 A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?
(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)
-